Tystysgrifau Salwch      Sickness Certificates

Nid oes angen tystysgrif salwch gan feddyg am unrhyw salwch sy'n para saith niwrnod neu lai. Fodd bynnag, efallai y bydd cyflogwr yn gofyn i chi lenwi ffurflen hunanardystio (SC2) sydd ar gael gan eich cyflogwr neu ar wefan HMRC.

Tystiolaeth eich bod yn sâl

Os byddwch yn sâl am fwy na saith niwrnod, gall eich cyflogwr ofyn am ryw fath o dystiolaeth feddygol i gadarnhau'r angen i dalu tâl salwch statudol (SSP).

Cyfrifoldeb eich cyflogwr yw penderfynu p'un a ydych yn gallu gweithio. Mae tystiolaeth feddygol, sy'n cael ei galw'n 'Ddatganiad Ffitrwydd i Weithio' (gweler isod) gan eich meddyg yn dystiolaeth gref eich bod yn sâl a byddai'n cael ei derbyn fel arfer oni bai bod tystiolaeth i brofi fel arall.

Gallech hefyd roi tystiolaeth gan rywun nad yw'n ymarferydd meddygol e.e. deintydd. Bydd eich cyflogwr yn penderfynu p'un a yw'r dystiolaeth hon yn dderbyniol. Os bydd gan eich cyflogwr unrhyw amheuon, mae'n bosibl y bydd yn dal i ofyn am dystysgrif feddygol gan eich meddyg teulu.

Datganiad o Ffitrwydd i Weithio - 'Nodyn Ffitrwydd'

Cafodd y 'nodyn ffitrwydd' ei gyflwyno ar 6 Ebrill 2010. Gyda chymorth eich cyflogwr, bydd y nodyn yn eich helpu i ddychwelyd i'r gwaith ynghynt trwy ddarparu mwy o wybodaeth am effeithiau eich salwch neu'ch anaf.

Am ragor o wybodaeth, gweler gwefan DirectGov  (tarddiad y wybodaeth hon).

You do not require a doctor's sickness certificate for any illness lasting seven days or less. Your employer may however require you to complete a self-certification form (SC2) which is available from your employer or on the HMRC website.

Evidence that you are sick

If you are sick for more than seven days, your employer can ask you to give them some form of medical evidence to support payment of SSP (statutory sick pay).

It is up to your employer to decide whether you are incapable of work. A medical certificate, now called a 'Statement of Fitness for Work’ (see below) from your doctor is strong evidence that you are sick and would normally be accepted, unless there is evidence to prove otherwise.

You could also provide evidence from someone who is not a medical practitioner, e.g. a dentist. Your employer will decide whether or not this evidence is acceptable. If your employer has any doubts, they may still ask for a medical certificate from your GP.

Statement of Fitness for Work - ’Fit Note'

The 'fit note' was introduced on 6 April 2010. With your employer's support, the note will help you return to work sooner by providing more information about the effects of your illness or injury.

For more information see the DirectGov website (where this information was sourced).

NHS WalesThis site is brought to you by My Surgery Website