Patient Charter

Patients Charter and Rights All members of the surgery Primary Care Team are dedicated to a quality policy to receive health care, which meet the patient's needs. The success of the partnership depends on an understanding of each other’s needs and co-operation between us. 

Our responsibility to you:

  • All new patients will receive a copy of our practice leaflet and copies will be displayed at the reception desk.
  • Staff, both medical and administrative, who are involved in your care will give you their names and ensure that you know how to contract them.
  • Our Surgery building will be welcoming, easy for patients to find their way around and appropriate to the needs of users, including the disabled.
  • Be registered with the surgery rather than an individual doctor. When making a booked appointment we will endeavour to offer you an appointment with the clinician of your choice. However, depending on the urgency and severity of the medical problem we cannot guarantee your preferred clinician will be available. You will be offered an appointment with a qualified clinician who will meet your needs. As a practice we have a duty of care to ensure your medical needs are met by any available clinician. Refusal to see a qualified clinician may result in us asking you to consider registering elsewhere.
  • Patients can ask to book an appointment with the Health Care Assistant for a health check on joining the Practice if they wish.
  • To be prescribed appropriate drugs and medicines.
  • Be referred for specialist or second opinion if they and the GP agrees.
  • You have a right to information about your own health, and in particular about your illness and its treatment, and the likely outcome of the illness.
  • If you have undergone tests or x-rays ordered by the practice, we will advise you when and how to obtain the results.
  • Have the right to view their medical records, subject to the relevant Acts and to know that those working for the NHS are under legal obligation to keep the contents confidential.
  • Any concerns will be dealt with promptly in conjunction with our “Putting Things Right” policy.

Patients' Rights to General Medical Services

With these rights come responsibilities and for the patients this means:

  • Courtesy to staff at all times - Practice operates zero tolerance to abusive behaviour and such behaviour may result in you being de-registered. If you have a problem with our service please contact us directly so we can try to help you rather than commenting on Facebook.  
  • Please be considerate of other patients using the surgery and children should be supervised at all times.
  • Responding in a positive way to questions asked by the Reception staff.
  • To attend appointments on time or give the Practice adequate notice that they wish to cancel. Someone else could use your appointment! However, please be prepared to wait if your consultation is delayed by an unexpected emergency.
  • A booked appointment is for ten minutes.
  • Do not ask for information about anyone other than yourself.
  • Please allow sufficient time for your consultant’s letter or the results of test to reach us. Enquiries about tests ordered by the hospital should be directed to the hospital, not the practice.
  • Please tell us about any change of name, phone number or address so that our records are accurate.
  • An appointment is for ONE person only - where another member of the family needs to be seen or discussed, another appointment should be made and the Medical Record be made available.
  • Patients should make every effort when consulting the Surgery to make best use of nursing and medical time - home visits should be medically justifiable and not requested for social convenience.
  • When patients are asked to give 48 hours’ notice or longer for repeat prescriptions, please give us this time, as it is to allow for accurate prescribing. Please remember our staff do not work Bank Holidays and prescriptions ordered over the internet at this time will not be ready until after 2.00pm the first day we re-open.
  • Out-of-Hours calls (e.g. evenings; nights & weekends) should only be requested if they are felt to be truly necessary.
  • Please let our Practice Manager know when we have either exceeded or failed to meet our responsibility to you.

Siarter a Hawliau'r Claf

Mae holl aelodau Tîm Gofal Cychwynnol ym maes llawfeddygaeth yn ymroddedig i bolisi ansawdd i dderbyn gofal iechyd, sy'n diwallu anghenion y claf. Mae llwyddiant y bartneriaeth yn dibynnu ar ddeall anghenion y naill a'r llall a chydweithredu rhyngom.

Ein cyfrifoldeb i chi:

  • Bydd yr holl gleifion newydd yn derbyn copi o daflen ein practis a chaiff copïau eu harddangos wrth ddesg y dderbynfa.
  • Bydd staff, rhai meddygol a gweinyddol, sy'n gysylltiedig â'ch gofal yn rhoi eu henwau i chi ac yn sicrhau eich bod yn gwybod sut i gysylltu â nhw.
  • Bydd adeilad ein Meddygfa yn groesawgar, yn hygyrch i gleifion ac yn briodol i anghenion defnyddwyr, gan gynnwys pobl anabl.
  • Cofrestru â'r feddygfa yn hytrach na meddyg unigol. Wrth drefnu apwyntiad ymlaen llaw, byddwn yn ceisio cynnig apwyntiad i chi gyda'r clinigwr o'ch dewis. Fodd bynnag, gan ddibynnu ar natur frys a difrifoldeb y broblem feddygol, ni allwn sicrhau y bydd y clinigwr o'ch dewis ar gael. Byddwn yn cynnig apwyntiad i chi gyda chlinigwr cymwysedig a fydd yn diwallu eich anghenion. Fel practis, mae gennym ddyletswydd gofal i sicrhau bod unrhyw glinigwr sydd ar gael yn diwallu eich anghenion meddygol. Gallai gwrthod gweld clinigwr cymwysedig ein harwain at ofyn i chi ystyried cofrestru yn rhywle arall.
  • Gall cleifion ofyn am gael trefnu apwyntiad gyda'r Cynorthwyydd Gofal Iechyd am archwiliad iechyd ar adeg ymuno â'r Practis os byddant yn awyddus i wneud hynny.
  • Derbyn cyffuriau a meddyginiaethau priodol ar bresgripsiwn.
  • Derbyn cyfeiriad am farn arbenigol neu ail farn os bydd y claf a'r meddyg teulu yn cytuno i hynny.
  • Mae gennych hawl i gael gwybodaeth am eich iechyd eich hun, ac yn benodol am eich salwch a'i ffyrdd o'i drin, a chanlyniad tebygol y salwch.
  • Os ydych wedi cael profion neu belydr-x a archebwyd gan y practis, byddwn yn eich cynghori pa bryd a sut i gael y canlyniadau.
  • Meddu ar yr hawl i weld eich cofnodion meddygol, yn amodol ar y Deddfau perthnasol a gwybod bod rhwymedigaeth gyfreithiol ar y rheiny sy’n gweithio i’r GIG i gadw'r cynnwys yn gyfrinachol.
  • Byddwn yn mynd i'r afael ag unrhyw bryderon yn brydlon yn unol â'n polisi "Gweithio i Wella".

 

Hawliau Cleifion i dderbyn Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol

Daw cyfrifoldebau ynghyd â'r hawliau hyn ac i'r cleifion, mae hyn yn golygu:

  • Cwrteisi i staff bob amser - mae'r Practis yn gweithredu dim goddefgarwch i ymddygiad ymosodol a gallai'r fath ymddygiad arwain at eich dadgofrestru.
  • Byddwch yn ystyriol o gleifion eraill sy'n defnyddio'r feddygfa a dylai plant gael eu goruchwylio bob amser.
  • Ymateb mewn ffordd gadarnhaol i gwestiynau a ofynnir gan staff y Dderbynfa.
  • Mynychu apwyntiadau ar amser neu roi rhybudd digonol i'r Practis eich bod am ganslo. Gallai rhywun arall ddefnyddio eich apwyntiad! Fodd bynnag, dylech fod yn barod i aros os oes oedi i'ch sesiwn ymgynghori oherwydd achos brys annisgwyl.
  • Mae apwyntiad sydd wedi'i drefnu ymlaen llaw yn para 10 munud.
  • Peidiwch â gofyn am wybodaeth yn ymwneud â neb arall ar wahân i chi eich hun.
  • Caniatewch ddigon o amser i lythyr eich meddyg ymgynghorol neu ganlyniadau eich prawf ein cyrraedd. Dylai ymholiadau am brofion a archebir gan yr ysbyty gael eu cyfeirio at yr ysbyty, nid y practis.
  • Rhowch wybod i ni am unrhyw newid i'ch enw, rhif ffôn neu'ch cyfeiriad fel bod ein cofnodion yn fanwl-gywir.
  • Mae apwyntiad ar gyfer UN unigolyn yn unig - lle mae angen i aelod arall o'r teulu gael ei weld neu ei drafod, dylai apwyntiad arall gael ei drefnu a dylai'r Cofnod Meddygol fod ar gael.
  • Dylai cleifion wneud pob ymdrech wrth ddelio â'r Feddygfa i wneud y defnydd gorau o amser nyrsio a meddygol - dylai fod modd cyfiawnhau ymweliadau â chartrefi am resymau meddygol ac ni ddylid gofyn amdanynt er hwylustod cymdeithasol.
  • Pan ofynnir i gleifion roi 48 awr o rybudd neu fwy am bresgripsiynau amlroddadwy, gofynnwn i chi roi'r amser hwn i ni gan ei fod yn caniatáu rhagnodi manwl-gywir. Cofiwch nad yw ein staff yn gweithio Gwyliau'r Banc ac ni fydd presgripsiynau a archebir dros y we ar yr adegau hyn yn barod tan ar ôl 2.00pm ar y diwrnod cyntaf y byddwn yn ailagor.
  • Dim ond os ydych yn teimlo bod galwadau y tu allan i oriau yn wirioneddol angenrheidiol (e.e. gyda'r nos; yn ystod y nos a thros y penwythnos) y dylech ofyn amdanynt.
  • Rhowch wybod i Reolwr ein Practis pan fyddwn naill ai wedi rhagori ar ein cyfrifoldeb tuag atoch chi neu pan fyddwn yn methu o ran ein cyfrifoldeb tuag atoch chi.


NHS WalesThis site is brought to you by My Surgery Website